Mae CRhA Ysgol Bodfeurig wedi cofrestru fel elusen gyda Chyllid a Thollau EM. Mae hyn o gymorth mawr i godi arian gan ein bod gymwys i fwy o grantiau ac hefyd gallwn hawlio Cymorth Rhodd (Gift Aid) ar roddion a digwyddiadau noddedig!
Sut mae Cymorth Rhodd yn gweithio: Am bob £1.00 a roddir gallwn hawlio 25c yn ôl gan Gyllid a Thollau EM. Os hoffwch i ni hawlio Cymorth Rhodd, bydd angen llenwi datganiad Cymorth Rhodd – Mae ffurflen datganiad ar gael ar ein tudalen Lawrlwytho, neu cysylltwch â pta.bodfeurig@gmail.com am fwy o wybodaeth.