Diweddariad Codi Arian

Yn ystod mis Awst, fe ddechreuom ymgyrch i godi £10,000 dros y flwyddyn hon. Hyd yn hyn, rydym wedi codi ychydig dros £ 3000! Mae hyn yn cynnwys oddeutu £ 750 wedi ei godi gan ddigwyddiadau codi arian, £ 2000 mewn roddion uniongyrchol gan unigolion trwy dudalen cyllid torfol ac hefyd £ 250 trwy hawlio cymorth rhodd gan ein bod bellach wedi cofrestru fel elusen!

Yn ogystal, rydym wedi codi arian trwy’r Loteri Ysgol newydd ac ‘Easy Fundraising’ a fydd yn cael ei drosglwyddo i ni bob chwarter.

Mae’ cyfanswm hwn yn swm gwych i’w gyflawni mewn tymor a hoffai’r CRhA ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r ymgyrch mewn unrhyw ffordd hyd yn hyn; roedd yn ymddangos fel targed uchelgeisiol ond rydym ymhell ar y ffordd, a bydd yr ysgol yn gallu gwneud defnydd da o’r arian a hyn.

Nid oes mwy o ddigwyddiadau CRhA tan ar ôl y Nadolig, ond mae tyweli te i’w prynu nawr a gallwch gefnogi’r ysgol trwy wneud eich siopa trwy ‘Easy Fundraising’.

Bydd cyfarfod CRhA nesaf, sef y CCB ar 22ain Ionawr 2020 ble byddem yn ethol y pwyllgor, adolygu llwyddiannau’r flwyddyn flaenorol ac hefyd cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Dewch yn llu!