Rôl CRhA Ysgol Bodfeurig yw i gyfoethogi profiad ein plant o fywyd ysgol wrth drefnu digwyddiadau cymdeithasol ac wrth godi arian, yn ogystal â chreu cyswllt cryf rhwng teuluoedd a’r ysgol. Rydym yn trefnu digwyddiadau i godi arian yn rheolaidd megis Barbeciw’r Haf a’r Ffair Nadolig.
Rydym fel arfer yn cyfarfod unwaith y tymor i drefnu digwyddiadau ac i drafod ffyrdd o godi arian i’r ysgol. Weithiau fydd plant cyngor yr ysgol yn bresennol i ddweud wrthym beth yr hoffent gael yn yr ysgol. Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi helpu i ariannu cyfarpar chwarae awyr agored, llyfrau newydd a thaflunydd ar gyfer neuadd yr ysgol.
Mae pob rhiant yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd CRhA ac rydym bob amser yn awyddus i glywed syniadau newydd ar gyfer trefnu digwyddiadau cymdeithasol yn ogystal â syniadau newydd am ffyrdd i godi arian!