Fe fydd y C.R.A.yn cynnal y Cyfarfod Blynyddol eleni drwy gyfrwng “Zoom” ar y 16 o fis Mawrth am 7 o’r gloch yr hwyr.Fe fydd 2 aelod o’r pwyllgor yn ymddeol eleni, sef y Gadeirydd a’r Trysorydd. Mae’n bwisig bod y swyddi hyn yn cael eu llenwi er mwyn i’r C.R.A. barhau i gadw eu statws cyfreithiol fel corff elusennol.Os hoffwch sefyll fel ymgeisydd am un o’r swyddi hyn cysylltwch, os gwelwch yn dda, drwy defnyddio’r ffurflen cyswllt: http//www.bodfeurig-pta.cymru/cy/contact/
Yn ystod y tair blynedd a aeth heibio cododd y C.R.A. £8,000 er lles yr Ysgol ac fe gafodd y cyfanswm ei ddefnyddio er mwyn:
- Ariannu aelod cynorthwyol ychwanegol.
- Darpariaeth I.T. (yn cynnwys 30 o lyfrau “chrome”).
- Llyfrau darllen.Darpariaeth allanol.
- Darpariaeth goginio.
Mae’r Cyfarfod Blynyddol yn rhan bwisig o amserlen y C.R.A. sydd fel arfer yn cael ei gynnal ym mis Ionawr. Atalwyd hyn eleni gan ddisgwyl i’r plant ddychwelyd am addysg wyneb yn wyneb.Os oes eisisu arnoch codi unrhyw fater i gael ei drafod yn y Cyfarfod Blynyddol gofynnwn yn garedig arnoch i chi ddefnyddio’r ddolen gyswllt uchod.Disgwylir i’r cyfarfod parhau am tua 40 munud.