Cyfarfod Blynyddol Cymdeithasiad 2021

Fe fydd y C.R.A.yn cynnal y Cyfarfod Blynyddol eleni drwy gyfrwng “Zoom” ar y 16 o fis Mawrth am 7 o’r gloch yr hwyr.Fe fydd 2 aelod o’r pwyllgor yn ymddeol eleni, sef y Gadeirydd a’r Trysorydd. Mae’n bwisig bod y swyddi hyn yn cael eu llenwi er mwyn i’r C.R.A. barhau i gadw eu statws cyfreithiol fel corff elusennol.Os hoffwch sefyll fel ymgeisydd am un o’r swyddi hyn cysylltwch, os gwelwch yn dda, drwy defnyddio’r ffurflen cyswllt: http//www.bodfeurig-pta.cymru/cy/contact/

Yn ystod y tair blynedd a aeth heibio cododd y C.R.A. £8,000 er lles yr Ysgol ac fe gafodd y cyfanswm ei ddefnyddio er mwyn:

  • Ariannu aelod cynorthwyol ychwanegol.
  • Darpariaeth I.T. (yn cynnwys 30 o lyfrau “chrome”).
  • Llyfrau darllen.Darpariaeth allanol.
  • Darpariaeth goginio.

Mae’r Cyfarfod Blynyddol yn rhan bwisig o amserlen y C.R.A. sydd fel arfer yn cael ei gynnal ym mis Ionawr. Atalwyd hyn eleni gan ddisgwyl i’r plant ddychwelyd am addysg wyneb yn wyneb.Os oes eisisu arnoch codi unrhyw fater i gael ei drafod yn y Cyfarfod Blynyddol gofynnwn yn garedig arnoch i chi ddefnyddio’r ddolen gyswllt uchod.Disgwylir i’r cyfarfod parhau am tua 40 munud.

Mae loteri Ysgol Bodfeurig wedi cyrraedd!

! Dyma eich cyfle i gefnogi’r ysgol heb gadael eich soffa! A cael siawns o ennill dwy wobr ariannol (un gwobr werth £25000…POB WYTHNOS)! Pris y tocynnau yw £1 yr wythnos, prynwch gymaint ac y gallwch, y mwy o docynnau rydym yn gwerthu, yr uchaf fydd y gwobr a mwy o arian i gefnogi’r ysgol! Y loteri gyntaf fydd y 9fed o Dachwedd, hynny yw 5 wythnos i gael cymaint o gefnogwyr â phosib. Rhannwch gyda’ch teulu, eich ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion! Cliciwch ar y ddolen i gael mwy o wybodaeth. Diolch am eich cefnogaeth

https://www.yourschoollottery.co.uk/lottery/school/ysgol-bodfeurig

Cyfarfod CrhA

Cyfarfod CrhA yn digwydd diwedd mîs yma yn neuadd yr ysgol. Ein cyfarfod cyntaf fel elusen fyrfiol. Croeso i bawb. Dewch i’n cefnogi. Mae gennym targed uchel i godi arian i’r ysgol blwyddyn yma.

Dydd Mercher Medi 25 am 5.30yh – 18.30yh

Nodwch y dyddiad! Diolch o flaen llaw am eich cefnogaeth.

Rydym yn elusen rŵan!

Mae CRhA Ysgol Bodfeurig wedi cofrestru fel elusen gyda Chyllid a Thollau EM. Mae hyn o gymorth mawr i godi arian gan ein bod gymwys i fwy o grantiau ac hefyd gallwn hawlio Cymorth Rhodd (Gift Aid) ar roddion a digwyddiadau noddedig!

Sut mae Cymorth Rhodd yn gweithio: Am bob £1.00 a roddir gallwn hawlio 25c yn ôl gan Gyllid a Thollau EM. Os hoffwch i ni hawlio Cymorth Rhodd, bydd angen llenwi datganiad Cymorth Rhodd – Mae ffurflen datganiad ar gael ar ein tudalen Lawrlwytho, neu cysylltwch â pta.bodfeurig@gmail.com am fwy o wybodaeth.

Croeso

Croeso i’r wefan Ysgol Bodfeurig PTA.

Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud a sut i helpu i gefnogi ein hysgol hyfryd.